29/07/2024 - 16:00
Galeri, Caernarfon
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd yn sefydlu’r corff newydd er mwyn braenaru’r tir ar gyfer pwerau datganoledig yn y maes darlledu a chyfathrebu.
Bydd Cymdeithas yr Iaith felly yn ynnal trafodaeth ar sut y gallai’r corff newydd gyfrannu at gryfhau democratiaeth, diwylliant ac iaith Cymru.
Ymhilth y rhai fydd yn rhan o'r digwyddiad mae:
- Yr Athro Tom O’Malley
- Mirain Owen, Cymdeithas yr Iaith
- Llion Iwan, Cwmni Da
- Cefin Campbell AS
Bydd cyfle hefyd i bawb gyfrannu.
Mae mynediad am ddim ond gofynnwn i chi gofrestru trwy ffurflen isod.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru