Cefnogi siaradwyr newydd ... ym Mangor

Taith gerdded o amgylch Bangor

Cychwyn am 2pm o'r maes parcio o flaen llyfrgell y Brifysgol

Taith gerdded (tua awr) o gwmpas Bangor o'r Brifysgol dros Roman Camp heibio Cylch yr Orsedd gan orffen ar y Pier (efo panad os bydd y tywydd yn caniatáu).

Arweinydd y daith: Geraint Percy Jones

Dyma gyfle arbennig i ymarfer eich Cymraeg gyda siaradwyr hen a newydd a chyfle i ddysgu mwy am y lle yr ydych yn byw. Dewch yn llu – yn siaradwyr iaith gyntaf ac yn siaradwyr newydd!

Manylion pellach: cwisdysgwyr@gmail.com

Noder: peidiwch â mynychu, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n hunan-ynysu, yn anhwylus neu'n dangos unrhyw symptom sy'n gysylltiedig â Cofid.

Bydd cwis dros Zoom yn y nos (7.00) – croeso i chi gystadlu fel unigolyn neu fel tîm (ebostiwch post@cymdeithas.cymru i gael dolen Zoom ar gyfer y cwis.

Rhan o Fedi'r Gymraeg – diwrnod cefnogi siaradwyr newydd Cymdeithas yr Iaith.