25/09/2021 - 10:30
Taith gerdded o gwmpas Blaenau Ffestiniog
Taith dan ofal Catrin Roberts gan ymweld â Chwm Bowydd a Llys Dorfil. Dyma gyfle arbennig i ymarfer eich Cymraeg gyda siaradwyr hen a newydd a chyfle i ddysgu mwy am y lle yr ydych yn byw.
Cyfarfod am 10.30 wrth Gaffi Stiniog. Byddwn yn gorffen gyda phaned a sgwrs yn y caffi.
Noder: peidiwch â mynychu, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n hunan-ynysu, yn anhwylus neu'n dangos unrhyw symptom sy'n gysylltiedig â Cofid.
Dewch yn llu – yn siaradwyr iaith gyntaf ac yn siaradwyr newydd!
Manylion cysylltu: 07900-615380 neu 07770-623962
Bydd cwis dros Zoom yn y nos (7.00) – croeso i chi gystadlu fel unigolyn neu fel tîm. Cliciwch yma am ddolen.
Rhan o Fedi'r Gymraeg – diwrnod cefnogi siaradwyr newydd Cymdeithas yr Iaith.