25/09/2021 - 14:00
Dewch i ddarganfod be sy 'mlaen yng Nghaerdydd
Cwrdd yn I want to ride my bike Cafe-Bar (26 Park Place, Caerdydd CF10 3BA) am 2.00yp.
Dewch yn llu – yn siaradwyr iaith gyntaf ac yn siaradwyr newydd!
Cysylltwch â Joseff Gnagbo am fanylion pellach 07985-247889.
Bydd cwis dros Zoom yn y nos (7.00) – croeso i chi gystadlu fel unigolyn neu fel tîm.
Manylion pellach (ac i gael dolen Zoom i'r cwis): post@cymdeithas.cymru
Noder: peidiwch â mynychu, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n hunan-ynysu, yn anhwylus neu'n dangos unrhyw symptom sy'n gysylltiedig â Cofid.