Dewch ar daith gerdded trwy dir Penrallt Fach a choedwig Rhosygilwen: cyfle i ddysgwyr, a siaradwyr Cymraeg rhugl ddod at ei gilydd i ddefnyddio'r iaith gyda Hedd Ladd Lewis yn siarad am hanes yr ardal.
Mae'n llwybr anodd llafurus (tua 8km – 2.5 awr) a gall y trac fod yn serth, anwastad, gwlyb a garw, felly gwnewch yn siwr eich bod yn ddigon ffit i wneud y daith. Dewch â'ch lluniaeth eich hun a gwisgwch ddillad ac esgidiau addas. Cofiwch: mai chi sy'n gyfrifol am eich iechyd a diogelwch eich hunain
Peidiwch â dod i'r daith, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n hunan-ynysu, yn anhwylus neu'n dangos unrhyw symptom sy'n gysylltiedig â Cofid.
Manylion Cyswllt: ailinor@hotmail.com / 07807 836572 / 01239 621190
Rhan o Fedi'r Gymraeg – diwrnod cefnogi siaradwyr newydd Cymdeithas yr Iaith.