25/09/2021 - 10:00
Taith gerdded o gwmpas Myddfai
Dewch i gefnogi'r digwyddiad hwn i dynnu siaradwyr Cymraeg profiadol a siaradwyr newydd at ei gilydd. Taith gerdded o gwmpas Myddfai dan ofal arweinydd profiadol a swyddog o Fenter Dinefwr.
Paned a sgwrs yng nghaffi'r neuadd wedyn.
Cyfarfod am 10.00yb y tu allan i Neuadd Gymunedol a Chanolfan Ymwelwyr Myddfai.
Manylion pellach: sararees@menterbrodinefwr.cymru
Noder: peidiwch â mynychu'r digwyddiad, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n hunan-ynysu, yn anhwylus neu'n dangos unrhyw symptom sy'n gysylltiedig â Cofid.
Rhan o Fedi'r Gymraeg – diwrnod cefnogi siaradwyr newydd Cymdeithas yr Iaith.