Cefnogi siaradwyr newydd ... yn Llandudno

25/09/2021 - 12:00

Caffi Oriel Mostyn (12 Stryd Vaughan Street, LL30 1AB)

Dewch draw i gaffi'r Mostyn am ganol dydd i glywed Holly yn siarad am waith a hanes y galeri!
 
Cyfle i Gymry Cymraeg a siaradwyr newydd ddod i adnabod ei gilydd yn well – gyda chyfle pellach i gymdeithasu dros ginio hefyd.
 
Croeso cynnes i bawb.
 
Manylion pellach: aledr1211@gmail.com
 
Noder: peidiwch â mynychu'r digwyddiad, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n hunan-ynysu, yn anhwylus neu'n dangos unrhyw symptom sy'n gysylltiedig â Cofid.
 
Rhan o Fedi'r Gymraeg – diwrnod cefnogi siaradwyr newydd Cymdeithas yr Iaith.