Cefnogi siaradwyr newydd ... yn ardal Llansteffan

25/09/2021 - 10:00

Taith gerdded o gwmpas Llansteffan gan ddechrau am 10.00 yn y bore yn y maes parcio.

Manylion pellach: cat43@aber.ac.uk

Dewch yn llu – yn siaradwyr iaith gyntaf ac yn siaradwyr newydd!

Yna, cwis dros Zoom dan ofal Hefin Jones am 7.00 – croeso i chi gystadlu fel unigolyn neu fel tîm. Ebostiwch post@cymdeithas.cymru am fanylion!

Noder: peidiwch â mynychu, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n hunan-ynysu, yn anhwylus neu'n dangos unrhyw symptom sy'n gysylltiedig â Cofid.

Rhan o Fedi'r Gymraeg – diwrnod cefnogi siaradwyr newydd Cymdeithas yr Iaith.