Cefnogi siaradwyr newydd ... yn ardal Pembre

25/09/2021 - 13:00

Sesiwn canu

1.00-3.00, Pembrey Inn, 30 Randell Square, Pembre SA16 0UA

Dyma gyfle arbennig i ddysgu'r iaith trwy gân. Beth am ddod â'ch hoff gân i'w rhannu!

Dewch yn llu – yn siaradwyr iaith gyntaf ac yn siaradwyr newydd! Y gobaith yw y bydd hwn yn datblygu'n weithgarwch rheolaidd, felly dewch i gefnogi.

Manylion pellach: Mr Evans  01554-834579

Bydd cwis dros Zoom yn y nos (7.00) – croeso i chi gystadlu fel unigolyn neu fel tîm (i gael dolen Zoom i'r cwis, ebostiwch: post@cymdeithas.cymru).

Noder: peidiwch â mynychu, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n hunan-ynysu, yn anhwylus neu'n dangos unrhyw symptom sy'n gysylltiedig â Cofid.

Rhan o Fedi'r Gymraeg – diwrnod cefnogi siaradwyr newydd Cymdeithas yr Iaith.