Cyfarfod Cyffredinol 2025
9:30yb, dydd Sadwrn, 4 Hydref 2025
Canolfan Arad Goch, Aberystwyth – ac arlein
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ein Cyfarfod Cyffredinol eleni. Mae croeso i bawb yn ein Cyfarfod Cyffredinol ond dim ond aelodau sydd â'r hawl i bleidleisio. Bydd amryw o gynigion yn cael eu trafod a fydd yn llywio ein gwaith am y flwyddyn i ddod. Dyma'ch cyfle chi felly i benderfynu ar y ffordd ymlaen i'r Gymdeithas.
Cofiwch roi gwybod erbyn canol dydd, dydd Llun 29 Medi os ydych yn dod, er mwyn i ni sicrhau bod digon o gopïau o'r dogfennau ar gael. Ni fyddwn yn darparu cinio.
I dorri ar waith y Cyfarfod Cyffredinol, byddwn yn cynnal dau sesiwn trafod ar y thema "Ymgyrchu yn y byd sydd ohoni" yn ystod y dydd – manylion isod.
.
Yn ddelfrydol, byddai'n braf gweld cymaint o bobl â phosibl yn ymuno â ni yn aberystwyth. Os yw hynny'n amhosibl, mae croeso i chi ymuno dros Zoom. Cysylltwch am ddolen.
Angen cymorth er mwyn gallu dod i'r cyfarfod?
-
Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.
-
Mae swyddogion y Gymdeithas yn gallu cynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad.
-
Os yw costau trafnidiaeth neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gall aelod wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Rydym ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu lifft gyda swyddogion eraill.
-
Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.
-
Gallwch ddarllen y Polisi Treuliau yn llawn yma.