Oherwydd gŵyl y banc a hanner tymor ar y bedwerydd dydd Llun, mi fydd cyfarfod nesaf Cell Wrecsam am 19:00 dydd Llun 21ain o Fai yng Nghanolfan Gymraeg Wrecsam, Saith Seren.
31ain o Fai yw dyddiad cau ymateb i ymgynghoriad Cyngor Wrecsam ar eu cynllun datblygu lleol. Rydym yn bwriadu cael drafft o'n hymateb at ei gilydd i'w drafod ar 21ain o Fai, felly mi fydd yn gyfarfod pwysig.
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw sylwadau ar gynllun datblygu Wrecsam, mi fuasai'n dda cael clywed gennych wrth i ni lunio ein hymateb. Neu mae croeso i chi ymateb yn uniongyrchol, wrth gwrs.
https://wrexham-consult-cy.objective.co.uk/portal/
Ga'i eto ddiolch i bawb wnaeth anfon neges i fynnu cael bil treth y cyngor a oedd yn parchu'r Gymraeg. Mae Cyngor Wrecsam wedi rhoi mewn ysgrifen y bydd unrhyw un sydd wedi gofyn yn derbyn bil newydd, felly does dim byd i'w golli gan anfon ebost yn gofyn am un rŵan: cymdeithas.cymru/ebost/trethcyngorwrecsam