14:30, dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf
Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
Y Cyfarfod Cyffredinol yw prif gyfarfod Cymdeithas yr Iaith. Dyma ble fyddwn yn cyflwyno adroddiadau ar waith y mudiad dros y flwyddyn a fu, ac yn trafod pa feysydd byddwn yn canolbwyntio arnynt dros y flwyddyn sydd i ddod. Fe'i cynhelir fel arfer yn yr hydref.
Mae Rheolau Sefydlog y Cyfarfod Cyffredinol yn gosod allan y drefn ar gyfer cyflwyno a thrafod cynigion. Nid yw'r Rheolau hyn wedi newid ers tro, ac maent yn gallu bod yn gymhleth ac yn anodd i'w dilyn gan amharu ar lif y drafodaeth weithiau.
Nod y Gymdeithas yw sicrhau bod y Cyfarfod Cyffredinol yn:
-
rhoi cyfle i drafodaethau agored, difyr ac adeiladol a fydd yn rhoi addysg wleidyddol i'r rhai sy'n mynychu ac yn eu hysgogi i fod yn rhan o weithgarwch y Gymdeithas
-
cyfrannu at esblygiad y mudiad yn gyffredinol.
Yr ydym felly wedi ail-edrych ar y Rheolau Sefydlog gan geisio'u gwneud yn fwy clir ac yn cyd-fynd yn well ag ethos y Gymdeithas o gyrraedd at benderfyniadau trwy gonsensws. Bydd y darpar rheolau newydd yn cael eu cyflwyno fel cynnig i'r Cyfarfod Cyffredinol Arbennig hwn.
Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn ond gobeithir yn fawr gweld nifer o aelodau yn bresennol (ac yn y Senedd Ranbarthol a gynhelir yn y bore).
Angen cymorth er mwyn gallu dod i'r cyfarfod?
-
Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.
-
Mae swyddogion cyflogedig (neu wirfoddol) y Gymdeithas yn gallu cynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad.
-
Os yw costau trafnidiaeth neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Rydym ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu lifft gyda swyddogion eraill.
-
Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.
-
Gallwch ddarllen y Polisi Treuliau yn llawn yma.