Cyfarfod Cyffredinol Arbennig

01/07/2023 - 14:30

14:30, dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf

Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth

Y Cyfarfod Cyffredinol yw prif gyfarfod Cymdeithas yr Iaith. Dyma ble fyddwn yn cyflwyno adroddiadau ar waith y mudiad dros y flwyddyn a fu, ac yn trafod pa feysydd byddwn yn canolbwyntio arnynt dros y flwyddyn sydd i ddod. Fe'i cynhelir fel arfer yn yr hydref.

Mae Rheolau Sefydlog y Cyfarfod Cyffredinol yn gosod allan y drefn ar gyfer cyflwyno a thrafod cynigion. Nid yw'r Rheolau hyn wedi newid ers tro, ac maent yn gallu bod yn gymhleth ac yn anodd i'w dilyn gan amharu ar lif y drafodaeth weithiau.

Nod y Gymdeithas yw sicrhau bod y Cyfarfod Cyffredinol yn:

  • rhoi cyfle i drafodaethau agored, difyr ac adeiladol a fydd yn rhoi addysg wleidyddol i'r rhai sy'n mynychu ac yn eu hysgogi i fod yn rhan o weithgarwch y Gymdeithas

  • cyfrannu at esblygiad y mudiad yn gyffredinol.

Yr ydym felly wedi ail-edrych ar y Rheolau Sefydlog gan geisio'u gwneud yn fwy clir ac yn cyd-fynd yn well ag ethos y Gymdeithas o gyrraedd at benderfyniadau trwy gonsensws. Bydd y darpar rheolau newydd yn cael eu cyflwyno fel cynnig i'r Cyfarfod Cyffredinol Arbennig hwn.

Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn ond gobeithir yn fawr gweld nifer o aelodau yn bresennol (ac yn y Senedd Ranbarthol a gynhelir yn y bore).

Angen cymorth er mwyn gallu dod i'r cyfarfod?

  • Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.

  • Mae swyddogion cyflogedig (neu wirfoddol) y Gymdeithas yn gallu cynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad.

  • Os yw costau trafnidiaeth neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Rydym ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu lifft gyda swyddogion eraill.

  • Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.

  • Gallwch ddarllen y Polisi Treuliau yn llawn yma.