25/04/2024 - 18:00
Cynhelir cyfarfod nesaf y Grŵp Hawl dros Zoom am 6 o'r gloch, nos Iau, 25 Ebrill (ond mae'n bosib taw cyfarfod hybrid fydd hwn – hyn i'w gadarnhau).
Dyma'r grŵp sy'n ymwneud â hawliau o ran defnyddio'r Gymraeg, statws y Gymraeg a defnydd cyrff o'r iaith felly os ydych yn aelod o'r Gymdeithas ac efo diddordeb yn y meysydd hyn, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp.
Ac, os nad ydych yn sicr, dewch i arsylwi yn un o gyfarfodydd y grŵp a phenderfynu wedyn.
Ymysg y materion y byddwn yn eu trafod y mae'r ymgyrch meysydd parcio.
Am ragor o fanylion neu os am ddolen Zoom, e-bostiwch neu ffoniwch 01970-624501.