Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd-Môn

13/07/2020 - 19:00
Bydd Rhanbarth Gwynedd-Môn yn cyfarfod dros Skype am 7.00, nos Lun, 13 Gorffennaf.
 
Croeso i unrhyw aelod yn y rhanbarth i ymuno – dewch i glywed beth sy'n digwydd yn yr ardal ac i drafod sut gall y Gymdeithas weithredu.
 
Rhowch wybod hefyd os oes unrhyw faterion penodol yr hoffech eu trafod.
 
Os hoffech ymuno yn y sgwrs ebostiwch post@cymdeithas.cymru er mwyn i ni eich ychwanegu at y grŵp Skype.