Cyfarfod Rhanbarth Powys

23/02/2021 - 19:30

Rhanbarth Pwys Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mae Rhanbarth Powys Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod yn gyson ar Zoom y dyddiau hyn. Bydd ein cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar Nos Fawrth Chwefror 23 am 7.30.

Y pynciau a drafodir gennym yn y cyfarfod nesaf fydd:

  1. Addysg Gymraeg ym Mhowys. (pwnc bythol wyrdd, sydd fel y tlodion efo ni bob amser).
  2. Lobio gwleidyddion. A ninnau ar drothwy yr etholiadau I Senedd Cymru ym mis Mai mae’n bwysig ein bod yn rhoi pwysau ar y y gwleidyddion hynny fydd yn sefyll ym Mhowys I weld pa gynlluniau sydd ganddynt o ran gweithredu dros yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn y Sir.
  3. Ystyried ym mha fodd y gallwn ni fel Rhanbarth gynorthwyo efo’r Rali Fawr Nid yw Cymru ar Werth gynhelir yn Nhryweryn ar Ddydd Sadwrn Mai 15 2021.

Mae yna lawer yn cwyno fod yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg ym Mhowys yn cael eu hesgeuluso. Wel, fe ellwch chi wneud yn siŵr nad yw hynny yn digwydd  drwy ymuno a ni yn y cyfarfod Zoom.

Gellwch wneud hynny trwy gysylltu â Gwioin Emyr ar

gogledd@cymdeithas.cymru neu

post@cymdeithas.cymru