Cyfarfod Rhanbarth Powys

15/12/2020 - 19:30

Cynhelir cyfarfod nesaf Rhanbarth Powys ar nos Fawrth, 15 Rhagfyr am 7.30 dros Zoom. Byddwn yn trafod materion sydd yn bwysig i'r ardal megis addysg. Bydd y cyfarfod yma yn fwy anffurfiol gyd thrafodaeth am flaenoriaethau y rhanbarth yn 2021. Croeso i chi ddod â diod a mins pei i'r cyfarfod, gobeithio gawn ni barti go iawn flwyddyn nesaf!

Os hoffech dderbyn dolen i'r cyfarfod, ebostiwch gogledd@cymdeithas.cymru

Croeso i unrhyw un ymuno!