18/03/2024 - 19:00
Rydym yn chwilio am gymorth aelodau ym Mhowys a gogledd Ceredigion i drefnu stondin y Gymdeithas yn Eisteddfod Maldwyn eleni. Yn wahanol i'r arfer, bydd gennym ddwy uned yn yr eisteddfod.
Os oes gennych syniadau am weithgarwch amrywiol i'w cynnal ar y stondin yn ystod yr wythnos, beth am ddod i gyfarfod am 7.00, nos Lun, 18 Mawrth.
Byddwn yn cyfarfod wyneb yn wyneb yng Ngwesty'r Wynnstay, Machynlleth (yn yr ystafell gefn) neu mae croeso i chi ymuno arlein (cysylltwch am ddolen).
Cysylltwch hefyd os oes gennych syniadau ond yn methu mynychu'r cyfarfod.