3.30, prynhawn Gwener, 8 Awst
Pabell y Cymdeithasau, Maes Eisteddfod Wrecsam
Roedd marwolaeth Sel Wilias yn y gwanwyn yn golled enfawr i Gymru. Teimlai Sel i'r byw ein bod ar drothwy datblygiad cyffrous yng Nghymru wrth i fentrau cymunedol Cymraeg ddechrau perchnogi asedau economaidd, tai a chyflenwadau ynni.
Gyda grym fel hyn yn eu dwylo, gallai ein cymunedau Cymraeg lunio dyfodol iddynt eu hunain yn lle bod yn ddibynnol yn unig ar friwsion gan y Llywodraeth. Y ffordd orau y gall Cymdeithas yr Iaith dalu teyrnged i Sel yw trwy sicrhau fod ei weledigaeth yn cael ei gweithredu.
Dewch i'r cyfarfod cyhoeddus hwn felly i glywed beth sy' wedi digwydd hyd yn hyn a beth y gallwch chi ei wneud yn eich cymunedau chi.
Cyfranwyr: Robat Idris; Ceri Cunnington, Cwmni Bro; Mel Davies, sydd â phrofiad eang ym maes mentrau cymunedol; Walis George, ar ran Cymdeithas yr Iaith.