10.00yb-3.00yp, dydd Iau, 16 Tachwedd
Y Pierhead, Bae Caerdydd
Cynhadledd sy'n rhan o ymgyrch hirdymor Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Eiddo i Gymru ac yn gyfle arbennig i ddysgu gan wledydd eraill.
Ymysg y siaradwyr mae arbenigwyr polisi tai mwyaf blaenllaw Ewrop, gan gynnwys Javier Buron Cuadrado a Sorcha Edwards.
Bu Javier Buron Cuadrado yn Bennaeth Tai Cyngor Dinas Barcelona ac yn brif bensaer Cynllun Hawl i Dai y ddinas, sydd ers 2007 wedi trawsnewid marchnad dai y ddinas i weithio er budd pobl leol.
Sorcha Edwards yw Ysgrifennydd Cyffredinol Housing Europe, Ffederasiwn Tai Cyhoeddus, Cydweithredol a Chymdeithasol Ewrop. Mae’r ffederasiwn yn gyfrifol am 25 miliwn eiddo yn Ewrop, sy’n cyfateb i 11% o stoc tai’r cyfandir, ac mae ganddo weledigaeth ar gyfer cartrefi fforddiadwy o safon ym mhob cymuned.
Noddir y gynhadledd gan Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, ac Aelod Llafur o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd, John Griffiths.