10.00yb-3.00yp, dydd Iau, 16 Tachwedd
Y Pierhead, Bae Caerdydd
Wrth i'r Llywodraeth baratoi papur gwyn ar yr angen i sicrhau tai digonol a rhenti teg rydyn ni'n galw am basio deddf gynhwysfawr, yn ystod y tymor Seneddol hwn, fyddai’n cadarnhau mewn cyfraith mai asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi yw prif ddiben tai.
Yn y gynhadledd bydd cyfle i ddysgu am ddiwygiadau sylfaenol a wnaed i'r system tai mewn gwledydd ar draws Ewrop sydd wedi llwyddo i greu systemau sydd yn gweithio er budd pobl, cyn trafod datrysiadau posibl yma yng Nghymru.
Trefn y gynhadledd:
9.30 - Paned a Chofrestru
10.00 - Croesawu ac Agor
• Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith
• Mabon ap Gwynfor, Aelod o'r Senedd
• John Griffiths, Aelod o'r Senedd
10.15 - Adnabod y problemau
Cyfraniadau fideo
Panelwyr:
• Catrin O’Neill, Siarter Cartrefi ac ymgyrchydd tai
• Cyng. Linda Evans, deilydd portffolio cartrefi ar gabinet Cyngor Sir Gâr
• Clarissa Corbisiero, Cyfarwyddydd Polisi a Materion Allanol, Community Housing Cymru
Cadeirydd: Sioned Hughes, ymgynghorydd tai
11.45 - Toriad
12.00 - Beth sy'n bosibl: Siaradwyr gwadd
• Dara Turnbull, Cydlynydd Ymchwil, Housing Europe
• Walis George, Cymdeithas yr Iaith
1.00 - Cinio
1.30 - Y Ffordd Ymlaen: Y Papur Gwyn
Panelwyr:
• Mabon ap Gwynfor, Aelod o'r Senedd
• John Griffiths, Aelod o'r Senedd
• Alicja Zalesinska, Tai Pawb, ar ran Back the Bill
• Walis George, Cymdeithas yr Iaith
Cadeirydd: Dylan Iorwerth
3.00 - Sylwadau cloi
Cymdeithas yr Iaith
Bydd cyfle hefyd i gyfrannu o’r llawr.
Noddir y gynhadledd gan Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, ac Aelod Llafur o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd, John Griffiths.