Medi'r Gymraeg: Diwrnod Cefnogi Siaradwyr Newydd

25/09/2021 ()

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi nodi 25 Medi eleni yn ddiwrnod Medi'r Gymraeg fel rhan o'r ymgyrch Cefnogi Siaradwyr Newydd.
 
Dros fisoedd y pandemig a'r cyfnodau clo, gwelwyd twf yn nifer y bobl sy'n dysgu'r Gymraeg ac mae amryw wedi bod yn mynychu gwersi neu sesiynau cymdeithasol arlein.
 
Dyma oedd y cyfnod i hau'r hadau. Nawr, gyda'r cyfyngiadau yn llacio, mae cyfle i gyfarfod wyneb yn wyneb ac i Fedi'r Gymraeg! 
 
Ar 25 Medi, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr a Chymry Cymraeg ddod ynghyd i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau – o deithiau cerdded i sesiynau sgyrsio i sesiynau canu – gyda chwis arbennig dros Zoom am 7.00 y noson honno (cysylltwch i gael dolen i ymuno).
 

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn barod (gweler y rhestr isod  cliciwch ar enw'r lle i gael y manylion llawn) ond rydyn ni’n apelio at fwy o bobl i drefnu digwyddiadau mewn cymunedau ar draws Cymru. Beth am fynd ati felly i drefnu rhywbeth yn eich ardal chi. Cysylltwch â swyddfa'r Gymdeithas 01970-624501 neu post@cymdeithas.cymru am wybodaeth bellach.

Noder: peidiwch â mynychu unrhyw ddigwyddiad, os gwelwch yn dda, os ydych chi'n hunan-ynysu, yn anhwylus neu'n dangos unrhyw symptom sy'n gysylltiedig â Cofid.
 

Cefnogi Siaradwyr Newydd yn ...

  • Caerdydd: 2.00, I want to ride my bike cafe/bar (CF10 3BA). Cyfle i ddod i wybod be sy' 'mlaen yng Nghaerdydd. Manylion pellach: Joseff Gnagbo 07985 247889.
  • Pen-y-bont ar Ogwr: 11:30-13:30, Tafarn y Ddraig Goch ger Penybont (CF31 1QJ). Sesiwn sgwrsio i dynnu siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ynghyd. Manylion pellach: neiljonescymru@mail.com; 07501 647914. 
  • Dinefwrtaith gerdded o gwmpas Myddfai. Cyfarfod am 10:00yb y tu allan i Neuadd Gymunedol a Chanolfan Ymwelwyr Myddfai. Manylion pellach: sararees@menterbrodinefwr.cymru
  • Ardal Pembre: 1.00-3.00, Pembrey Inn (SA16 0UA). Sesiwn canu – cyfle i ddysgu a rhannu'r iaith trwy gân. Manylion pellach: Mr Evans 01554-834579.
  • Ardal Llansteffan: taith gerdded o gwmpas Llansteffan yn dechrau am 10.00 yn y maes parcio. Manylion pellach: cat43@aber.ac.uk.
  • Ardal Cilgerran: taith gerdded (tua 8km) trwy dir Penrallt Fach a choedwig Rhosygilwen gyda Hedd Ladd Lewis yn siarad am hanes yr ardal. Cyfarfod y tu allan i Ysgol Cilgerran am 2.00yp. Manylion pellach: ailinor@hotmail.com
  • Llanbedr Pont Steffancerdded, clonc a phaned. Cyfarfod wrth fynedfa'r Brifysgol am 2.00yp. Manylion pellach: nia.llywelyn@googlemail.com.
  • Aberystwythtaith o amgylch tref Aberystwyth i ddysgu 'chydig am hanes enwau'r strydoedd. Cyfarfod am 10.30yb wrth Gloc y Dre. Manylion pellach: post@cymdeithas.cymru.
  • Blaenau Ffestiniog: taith gerdded o gwmpas Blaenau Ffestiniog. Cyfarfod am 10:30 wrth Caffi Stiniog. Manylion pellach: 07900-615380.
  • Bangor: taith gerdded o gwmpas Bangor - cychwyn am 2pm o'r maes parcio o flaen llyfrgell y Brifysgol. Manylion pellach: cwisdysgwyr@gmail.com.
  • Llandudno: 12.00, Caffi Oriel Mostyn. Sgwrs gyda Holly Williams am hanes yr oriel. Manylion pellach: aledr1211@gmail.com.
  • Llundain5.00, Canolfan Cymry Llundain. Ymunwch ag aelodau Merched y Wawr ac eraill am 'chydig o hwyl a chymdeithasu gyda'r cwis yn cael ei ddarlledu ar sgrîn fawr am 7.00. Manylion pellach: jo.heyde@btopenworld.com.
  • Rhydychen: cerdded a chlonc o gwmpas Port Meadow hyfryd rhwng y dref a’r Afon Tafwys. Cyfarfod 12:00 gyferbyn â fynedfa’r Orsaf Reilffordd ger cerflun y tarw. Manylion pellach: john.williams973@ntlworld.com