10/06/2025 - 18:30
Cynhelir cyfarfod o'r Grŵp Cymunedau Cynaliadwy dros Zoom am 6.30, nos Fawrth, 10 Mehefin.
Y prif fater i'w drafod fydd y cyfarfod cyhoeddus yn yr Eisteddfod Genedlaerthol ond byddwn hefyd yn ystyried pethau megis ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, ac efallai rali arall yn yr hydref.
Mae croeso mawr i aelodau'r Gymdeithas ymuno â'r grŵp hwn felly os oes gennych ddiddordeb yn y maes, beth am ddod i un o'r cyfarfodydd i weld beth yw beth.
Am ragor o wybodaeth neu ddolen i ymuno cysylltwch.