Cyfarfod y Grŵp Addysg

20/11/2023 - 11:00

Bydd cyfarfod nesa' Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith dros Zoom am 11.00, bore Llun, 20 Tachwedd.

Byddwn yn parhau â'r gwaith ar yr ymgyrch Deddf Addysg Gymraeg i Bawb ac yn trafod prentisiaethau ymysg materion eraill.

Mae'r grŵp bob amser yn chwilio am aelodau newydd o blith aelodau'r Gymdeithas, felly os oes gennych ddiddordeb yn y maes, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp.

Ac os nad ydych yn siwr, pam na ddewch chi i'r cyfarfod er mwyn cael blas ar y trafodaethau.

Ebostiwch post@cymdeithas.cymru er mwyn i ni eich ychwanegu at y grŵp ac anfon dolen Zoom atoch.