Cyfarfod o'r Grŵp Addysg

17/06/2024 - 19:00

Bydd cyfarfod nesa' Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith dros Zoom am 7.00, nos Lun, 19 Mehefin.

Byddwn yn parhau â'r gwaith ar yr ymgyrch Deddf Addysg Gymraeg i Bawb yn ogystal â thrafod rhai materion eraill.

Mae'r grŵp bob amser yn chwilio am aelodau newydd o blith aelodau'r Gymdeithas, felly os oes gennych ddiddordeb yn y maes, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp.

Ac os nad ydych yn siwr, pam na ddewch chi i'r cyfarfod er mwyn cael blas ar y trafodaethau.

Ebostiwch post@cymdeithas.cymru er mwyn i ni eich ychwanegu at y grŵp ac anfon dolen Zoom atoch.