Gweithdy creu Baner "Dwi eisiau byw yn Gymraeg"

31/01/2013 - 16:00

Bydd Ruth Jen yn cynnal gweithdy creu baneri ar gyfer rali'r cyfrif Aber. Bydd y gweithdy yn Neuadd Talybont rhwng 4 a 7 nos Iau y 31ain o Ionawr. 

Gallwch alw mewn i wneud un faner, neu aros am y teirawr gyfan i greu nifer o faneri - bydd yr holl ddeunyddiau yno felly dim ond slogan a phinsied o greadigrwydd sydd ei angen!