13/07/2012 - 18:00
50: Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr
13-14 Gorffennaf 2012, Pafiliwn Bont
I nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith yn hanner cant, ac i ddathlu pum degawd o ymgyrchu brwd a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, bydd 50 o artistiaid Cymraeg blaenllaw yn perfformio mewn gig enfawr ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid.
Hanner Cant fydd y digwyddiad mwyaf i'r sîn roc Gymraeg ei weld ers blynyddoedd. Byddwn yn cyhoeddi enwau'r artistiaid un bob wythnos rhwng nawr a'r penwythnos mawr: hannercant.com