Cyfarfod o'r Grŵp Hawl i'r Gymraeg

30/10/2024 - 18:30

6.30, nos Fercher, 30 Hydref

Cyfarfod dros Zoom

Dyma gyfarfod cynta'r Grŵp Hawl ar ôl ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd yn y Cyfarfod Cyffredinol diweddar. Yn y cyfarfod felly byddwn ni'n cynllunio prif ymgyrchoedd y grŵp am y misoedd nesaf yn ogystal â thrafod camau nesaf ymgyrchoedd cyfredol i sicrhau'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob maes.

Os oes gennych ddiddordeb yn y maes, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp. Os nad ydych yn siwr, beth am fynychu cyfarfod i weld beth yw beth!

Cysylltwch am ddolen.