30/10/2024 - 18:30
6.30, nos Fercher, 30 Hydref
Cyfarfod dros Zoom
Dyma gyfarfod cynta'r Grŵp Hawl ar ôl ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd yn y Cyfarfod Cyffredinol diweddar. Yn y cyfarfod felly byddwn ni'n cynllunio prif ymgyrchoedd y grŵp am y misoedd nesaf yn ogystal â thrafod camau nesaf ymgyrchoedd cyfredol i sicrhau'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob maes.
Os oes gennych ddiddordeb yn y maes, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp. Os nad ydych yn siwr, beth am fynychu cyfarfod i weld beth yw beth!
Cysylltwch am ddolen.