10:00, bore Sadwrn, 6 Ebrill
Clwb y Bont, Pontypridd
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o ddiwrnod o weithgarwch ym Mhontypridd, cartref Eisteddfod Genedlaethol 2024.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i drafod yr heriau sy'n wynebu'r Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn y cymoedd a sut gall y Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith fod yn rhan o adfywio'r ardal. Cyfarfod cychwynnol fydd hwn gyda chyfarfod pellach yn digwydd yn yr hydref.
Cadeirydd: Helen Prosser / Danny Grehan
Cyfranwyr:
- Hefin Gruffydd, Cadeirydd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
- Luned Mair-Barratt, Cyd-gadeirydd Plaid Ifanc
- Wil Morus Jones
Bydd paned a chroeso am 10.00, gyda'r cyfarfod ei hun yn cychwyn am 10.15 (ein bwriad yw gorffen oddeutu canol dydd).
Bydd Senedd y Gymdeithas yn cyfarfod yn y prynhawn – i ddechrau am 1.15. Ymgyrchoedd y Gymdeithas bydd prif ffocws y cyfarfod hwn ac mae croeso i aelodau'r Gymdeithas aros ymlaen i'r cyfarfod.