Celf, Cân a Phrotest - lansiad albym Nid yw Cymru ar Werth

01/07/2023 - 17:00

Lansiad Albym Nid yw  Cymru ar Werth

Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth

Mae'r Gymdeithas wedi cynhyrchu albym newydd aml-gyfrannog Nid yw Cymru ar Werth a byddwn yn lansio'r albym yn y digwyddiad hwn, sef trafodaeth gyda Toni Schiavone, Iwan Bala, Catrin O'Neill ac eraill ar y testun 'Celf, Cân a Phrotest'. Cyfle i ystyried sut a pham mae artistiaid a cherddorion yn defnyddio'u gwaith fel cyfrwng i brotestio neu dynnu sylw at ymgyrchoedd gwahanol.

Mae'r albym (ar finyl a chryno ddisg) yn cynnwys 11 o ganeuon gan amryw artistiaid megis Steve Eaves, Gwenno Saunders ac Elidyr Glyn.

Darn o waith celf trawiadol gan Iwan Bala yw clawr yr albym. Bydd y darn celf gwreiddiol yn cael ei werthu mewn ocsiwn arbennig yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ond bydd prints o'r darn ar werth ar y noson, yn ogystal â'r albym ei hun. 

Noder: cynhelir Senedd Ranbarthau am 10.30 y diwrnod hwn ac yna Cyfarfod Cyffredinol Arbennig am 2.30. gyda'r lansiad hwn yn cloi'r diwrnod am 5.00.