Lansio Maniffesto 2022-2032: Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg

05/08/2022 - 14:00

Bob deng mlynedd ers ein sefydlu yn 1962, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi maniffesto yn amlinellu ein gweledigaeth dros Gymru a’r Gymraeg ar gyfer y ddegawd i ddod. Gallwch ddarllen ein maniffestos blaenorol yma.

Nid dogfen polisi manwl ynghlwm ag unrhyw etholiad yw ein maniffesto, ond gweledigaeth ehangach i roi fframwaith i’n gwaith dros y deng mlynedd nesaf ac ysbrydoli ein haelodau, a phobl Cymru, i weithredu dros weledigaeth amgen, cyffrous, o’r wlad y gall Cymru fod.

Rhaid i’r maniffesto ymateb i gwestiynau mawr ein hoes, ac rydym felly wedi penderfynu canolbwyntio’r maniffesto ar yr argyfwng hinsawdd sy’n bygwth dyfodol pawb, a’r hyn gallwn ei wneud i ymateb i’r argyfwng mewn ffordd sydd hefyd yn cryfhau’r Gymraeg a holl gymunedau Cymru.

Byddwn yn lansio'r maniffesto fel rhan o’r rhaglen ehangach i nodi ein 60 mlwyddiant ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes Eisteddfod Ceredigion 2022 am 2 o'r gloch, dydd Gwener, 5 Awst. Croeso cynnes i bawb.