Metro Glyndŵr

Dewch i deithio'r byd yn wyrdd ...

Rydym yn galw ar bobl o bob rhan o Gymru i ddod i Fachynlleth erbyn 2.00, dydd Sadwrn, 14 Medi fynnu dyfodol i'n cymunedau Cymraeg a chartrefi i bawb. Bydd pob llwybr y diwrnod hwnnw yn arwain at Rali Glyndŵr.

Mae pobman yng Nghymru o fewn taith bore i Fachynlleth.

Dewch ar y trên (llwybrau glas), dewch ar y bws (llwybrau gwyrdd) neu rannwch car (llwybrau coch).

Bydd pum man parcio lle bydd stiwardiaid gan y Gymdeithas i drefnu rhannu ceir – manylion isod.

  1. MERTHYR TUDFUL: ymgynnull 9.45 ym Maes Parcio Stryd y Castell (CF47 8UB – y tu ôl i Ganolfan Soar) ar gyfer teithwyr o Gaerdydd, Rhondda Cynon Tâf a Gwent. Stiwardiaid – Gari a Jamie Bevan (07584 747784).

  2. LLANBEDR PONT STEFFAN: ymgynnull 10.15 ym Maes Parcio Rhodfa Ffynonbedr/Peterwell Terrace (SA48 7BU) ar gyfer teithwyr o Abertawe, Sir Gâr a Dyffryn Teifi. Stiwardiaid – Tegid a Rhiannon Dafis (07902 223683).

  3. CORWEN – Tre Glyndŵr!: ymgynnull 10.00 ym Maes Parcio Lôn Las (LL21 0DN) ar gyfer teithwyr o Ddyffryn Clwyd a Wrecsam. Stiwardiaid – Arfon Gwilym a Sioned Webb (arfongwilym@icloud.com, 07974 935755).

  4. Y BALA: ymgynnull 10.30 ym Maes Parcio Y Grin (LL23 7NG) ar gyfer teithwyr o Gorwen (3), Dyffryn Conwy a Hiraethog. Stiwardiaid – Wyn a Bethan Cowbois (07717 742264).

  5. PORTHMADOG: ymgynnull 10.30 ym Maes Parcio Iard yr Orsaf (LL49 9HX) ar gyfer teithwyr o weddill Gwynedd a Môn. Stiwardiaid i'w cadarnhau (cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru neu 01239 920180).

Gwnewch yn siwr fod baneri ceir Owain Glyndŵr yn chwifio o ffenest eich car! Ar werth yma.