Ocsiwn y Dathlu

10/08/2023 - 17:30

5.30, dydd Iau, 10 Awst 2023

Pabell y Cymdeithasau, Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd

gyda Dewi Pws a Danny Grehan

Yn dilyn ymlaen o flwyddyn dathlu'r Gymdeithas yn 60 oed yr ydym wedi mynd ati i gasglu amrywiaeth o eitemau i'w gwerthu mewn ocsiwn arbennig – y mwyafrif gyda chysylltiad â gweithgarwch y Gymdeithas dros y 60 mlynedd diwethaf. Dyma restr  ond cewch fwy o wybodaeth yn y catalog (mae angen i chi sgrolio lawr i'r gwaelod):

  • Darn celf gwreiddiol Nid yw Cymru ar Werth, Iwan Bala (pris cadw: £750)
  • Llun gwreiddiol gan Angharad Tomos CYNNIG DIWEDDARA' £50
  • Llawysgrif 'Yma o Hyd' Dafydd Iwan
  • Print wedi fframio 'Gwnewch bopeth yn Gymraeg'
  • Copi o'r llyfr Rhaid i Bopeth Newid wedi'i lofnodi gan yr holl gyfranwyr CYNNIG DIWEDDARA' £30
  • Cerdd Hywel Griffiths 'Y Llif o dan Bont Trefechan' yn ei lawysgrifen (wedi fframio)
  • Set o fathodynnau tafod
  • Llawysgrif o gân Steve Eaves Che Guevara (i Branwen ac Alun) CYNNIG DIWEDDARA' £50
  • Poster A2 Gig y 50mlwyddiant wedi'i arwyddo gan y perfformwyr
  • Pecyn o lyfrau'r Lolfa (gwerth tua £90)
  • Modrwy tafod – yr olaf o'i fath, dim mwy yn cael eu cynhyrchu CYNNIG DIWEDDARA' £20
  • Arwydd metal (atgofa o'r ymgyrch paentio arwyddion)
  • Tafodau – darn gwreiddiol gan Ann Catrin
  • Dwy o ganeuon Delwyn Sion yn ei lawysgrifen wedi fframio - 'Un Seren' a 'Bore da Gymry'
  • Ymgyrchwyr – darn gwreiddiol gan Ruth Jên
  • Cyfflincs tafod – yr unig pâr sy'n bodoli! CYNNIG DIWEDDARA' £55
  • Cerdd gan Myrddin ap Dafydd yn ei lawysgrifen
  • Ac efallai bydd syrpreis gan Dewi Pws ar y diwedd!

Mae croeso i chi anfon cynigion o flaen llaw:

  • gallwch ebostio eich cynnig i post@cymdeithas.cymru hyd at 5.00 ar ddydd Mercher, 9 Awst
  • gallwch gyflwyno cynnig mewn person ar stondin y Gymdeithas (rhif 501-502) hyd at 4.00 ar ddiwrnod yr ocsiwn.

Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt, enw'r eitem a'ch cynnig.

AtodiadMaint
Catalog Ocsiwn Steddfod Llyn ac Eifionydd.pdf7.23 MB