Angharad Tomos yn trafod ei llyfr 'Paent' (sgwrs arlein i ddysgwyr)

17/03/2025 - 19:00

Bydd y nesaf o'r sesiynau arlein misol ar gyfer siaradwyr newydd ar nos Lun, 17 Mawrth am 7 o'r gloch.

Croeso i ddysgwyr o bob lefel i ddod i wrando ar Angharad Tomos yn trafod ei llyfr Paent – llyfr am Robert a holl miri'r arwisgo Siarl ac ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i gael arwyddion dwyieithog yn ystod haf 1969.

Cysylltwch am ddolen: post@cymdeithas.cymru.