Ymlaen at Gymru Rydd, Werdd, Gymraeg

31/03/2023 - 18:00
 
Rydym yn cynnal penwythnos preswyl bob blwyddyn er mwyn cael cyfle i gymdeithasu, trafod a chynnal gweithdai. Mae'n gyfle arbennig i rannu syniadau a thrafod sut mae symud ymlaen.
 
Cynhelir y penwythnos eleni o 6:00, nos Wener, 31 Mawrth i ganol dydd, dydd Sul, 2 Ebrill yn Byncws Canolbarth Fferm y Morfa, Llanrhystud.
 
Eleni, bydd y penwythnos yn cynnwys cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Llanrhystud ar y dydd Sadwrn o dan y teitl 'Grym, Gweithredu, Gobaith: diwrnod o ddigwyddiadau gan Gymdeithas yr Iaith sy'n edrych ymlaen at y Gymru Rydd Werdd Gymraeg' ac yn cynnwys sesiynau ar:
  • maniffesto'r Gymdeithas ac ymateb i'r Cyfrifiad
  • Protestio: Gwybod eich hawliau
  • gwerthuso’n hawliau iaith a thrafod camau nesaf ein hymgyrchu

Cost y penwythnos preswyl i aelodau yw £20. Archebwch le yma.