Penwythnos Ymgyrchu Tresaith
Nos Wener 13eg Ebrill - dydd Sul 15fed Ebrill
Canolfan Tresaith, Ceredigion
https://www.facebook.com/events/332261397267472/
Rydym yn cynnal gweithdai, sesiynau cymdeithasu a thrafodaethau am ymgyrchu dros y Gymraeg, gan gynnwys trafodaeth am bolisi economaidd y Gymdeithas. Bydd yr Aelod Cynulliad Adam Price yn ymuno â'r drafodaeth honno gan amlinellu ei weledigaeth ef.
Mae'r sesiwn yn agored i bob aelod, ac mae cyfleusterau llety a choginio bwyd yn y ganolfan, felly rhowch wybod os hoffech ddod. Mae'r penwythnos yn rhad ac am ddim, ond byddwn ni'n gofyn am gyfraniad gwirfoddol tuag at y costau yn ôl gallu'r bobl sy'n dod. Bydd amserlen lawn a manylach o'r penwythnos ar gael cyn bo hir.
Er mwyn archebu lle, neu ar gyfer mwy o wybodaeth, cysyllta â post@cymdeithas.cymru / 01970 624501.