11:00, Sgwâr Lancaster, Conwy
Yn ddiweddar fe bleidleisiodd Cyngor Conwy i godi premiwm treth y cyngor i 50% ar berchnogion ail gartrefi o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Dan arweiniad gweithgor tai fforddiadwy, pleidleisiodd y pwyllgor trosolwg a chraffu i wrthdroi'r penderfyniad hwn, ac i gadw'r gyfradd y bydd perchnogion ail gartrefi yn ei thalu yn 25% ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae hyn yn ein tyb ni yn anfoesol, yn anghyfiawn ac yn gosod buddion perchnogion ail gartrefi yn uwch na hawliau trigolion lleol i fyw yn eu cymunedau.
Dewch i ddangos eich gwrthwynebiad i'r penderfyniad hwn. Dewch â thai wedi eu gwneud allan o focsys efo chi i gynrychioli'r tai haf sy'n amddifadu pobl leol o gartrefi.
Rhannwch y neges hon yn eang a'r digwyddiad ar Facebook.