Pobl Atal Wylfa B - mynd a'r frwydr i Siapan!

17/07/2018 - 19:00
Dewch i glywed am y frwydr yn erbyn atomfa newydd yn y Wylfa, Ynys Môn.
 
Cyfarfod cyhoeddus gydag ymgyrchwyr o Pobl Atal Wylfa-B (PAWB) sydd wedi bod yn Siapan fel ym mis Mehefin yn siarad am eu taith.
 
Bydd hefyd siaradwyr o Siapan sydd ynghlwm a'r frwydyr yn erbyn ynni Niwclear.
 
Yn ogystal a chlywed am yr hyn sydd yn digwydd ochr arall y byd efo'r ymgyrch, byddwn hefyd yn trafod y canlyniadau ieithyddol,
amgylcheddol a chymdeithasol Wylfa-B a be allwn ni ei wneud i'w hatal!
 
Bydd y cyfarfod yng Nghapel y Maes, Y Maes, Caernarfon, LL55 5NR am 7yh