05/08/2025 - 10:00
10.00, bore Mawrth, 5 Awst
Uned Cymdeithas yr Iaith, Maes Eisteddfod Wrecsam
Wedi i'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg dreulio dwy flynedd yn trafod a chyhoeddi adroddiad, treuliodd y Llywodraeth ddeng mis yn ystyried eu hymateb.
Cyhoeddodd y Llywodraeth o'r diwedd fod nifer o syniadau gwerth meddwl amdanynt ac y bydd yn parhau i wneud rhai o'r pethau y mae'n eu gwneud yn barod!
Does dim egni nac unrhyw ewyllys wleidyddol i weithredu gan y Llywodraeth. Dewch i brotest i ddeffro'r Llywodraeth hon a'r un nesaf at argyfwng ein cymunedau Cymraeg.
Dydy'r atebion ddim yn gymhleth, yr ewyllys i weithredu sy'n brin.
Fyddwn ni'n gallu eu deffro?