15/02/2025 - 14:00
Byddwn yn cynnal rali ar risiau’r Senedd ar ddydd Sadwrn, 15 Chwefror 2025 i gefnogi’r 80% o’n plant sy’n gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg yn hyderus.
Mae cyfle gan y Llywodraeth trwy Fil y Gymraeg ac Addysg i roi addyg Gymraeg i bob un yng Nghymru, ond ar hyn o bryd bydd yn parhau i amddifadu'r mwyafrif o dderbyn addysg Gymraeg.
Dewch felly i'r rali hon er mwyn dangos bod pobl Cymru yn cyd-sefyll gyda'r 80% sy'n cael eu hamddifadu o'r Gymraeg.
Yymysg y siaradwyr bydd:
- Mabli Siriol, Cymdeithas yr Iaith
- Hammad Rind, bardd a llenor
- Catrin Edith, Is-lywydd y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Mwy o wybodaeth - post@cymdeithas.cymru