Rali: Amddiffyn Canolfannau Iaith Gwynedd

30/03/2019 - 11:30

Ers 1984 mae canolfannau iaith Gwynedd wedi bod yn trochi plant mewnfudwyr yn y Gymraeg cyn mynd ymlaen i gael addysg Gymraeg, ac yna aros yn yr ardal a byw eu bywydau yn Gymraeg. Mae llwyddiant y canolfannau yn anhygoel ac mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn fodel i siroedd eraill yn y maes. Fodd bynnag, mae'r cyngor yn cynnig toriadau i gyllideb y canolfannau o fis Medi 2019.

Dewch i'r rali i wrthwynebu unrhyw doriadau!

11:30 y bore, dydd Sadwrn, 30ain o Fawrth.

Y Maes, Caernarfon.

Siaradwyr i'w cadarnhau.