Rali Genedlaethol Nid yw Cymru ar Werth

Rali Genedlaethol Nid yw Cymru ar Werth

2,00, dydd Sadwrn, 14 Medi, Machynlleth

Bydd gorymdaith o faes parcio Heol Maengwyn (SY20 8DY) am 2.00 ac yna bydd y rali am 2.30 wrth Garreg Owain Glyndŵr yng ngardd Y Plas (SY20 8ER).

Cyfranwyr: Delyth Jewell AoS, Arwyn Groe, Dafydd Morgan Lewis, Mike Parker, Catrin O'Neill, Linda Griffiths, Cynghorydd Alwyn Evans

Dewch yn llu i fynnu Deddf Eiddo – Dim Llai.

Rydym yn annog pawb i gyd-deithio i Fachynlleth – ar drên, ar fws neu trwy rannu car. Bydd pum man parcio gan y Gymdeithas – yn Merthyr Tudful, yn Llambed, yng Nghorwen, yn y Bala ac ym Mhorthmadog – lle bydd stiwardiaid yn trefnu rhannu ceir. Mae manylion pellach yma.

Ac os ydych yn dod mewn car, gwnewch yn siwr bod gennych faner Owain Glyndŵr yn chwifio o ffenest eich car. Gallwch brynu baneri ceir Owain Glyndŵr yma.