1.30, dydd Sadwrn, 29 Mawrth 2025
Maes Parcio Y Ddôl, Stryd y Plas, Nefyn
Bwriad Llywodraeth Cymru yw gwneud cyn lleied â phosib o ran dyfodol yr iaith a chymunedau Cymraeg yn ystod yr 16 mis tan yr etholiad. Yr un peth y mae'n RHAID iddynt ei wneud rywbryd yn ystod y gwanwyn yw ymateb i argymhellion adroddiad Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Dewch i rali Nid yw Cymru ar Werth Nefyn er mwyn gwasgu am gymaint â phosib gan y Llywodraeth mewn ymateb i argymhellion y Comisiwn a sicrhau fod Deddf Eiddo gyflawn i reoli'r farchnad tai a grymuso cymunedau lleol ar yr agenda gwleidyddol ac yn flaenoriaeth ar gyfer Etholiad 2026
Yn dilyn yr orymdaith bydd rali am 2 o'r gloch wrth Westy'r Nanhoron pan fydd Mared Llywelyn yn cyflwyno Liz Saville Roberts, Myrddin ap Dafydd, Ieuan Wyn, Walis George ac Iwan Rhys Evans.
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn dilyn am 3 o'r gloch.