Rali Fawr Nid yw Cymru ar Werth

10/07/2021 - 13:00

Rali Fawr ger argae Tryweryn.

Dewch yn eich cannoedd i sefyll ar hyd yr argae yn symbol o'n penderfyniad i atal grym y farchnad rhag chwalu'n holl gymunedau Cymraeg. 

Mae'r rali yn cychwyn am 1.00 ond bydd y safle yn agored o 11.00, a bydd 2 awr o adloniant wedyn tan 1.00.

Prif bwrpas y rali yw i wneud galwad genedlaethol ar y Llywodraeth i gymryd camau radical i reoli'r farchnad dai a newid y drefn gynllunio er mwyn diogelu ein cymunedau Cymraeg.

Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am drefniadau'r diwrnod isod, ac mae bwletinau dyddiol yn cael eu rhoi ar dudalen Facebook Nid yw Cymru ar Werth.

Gofynnir i chi ddarllen y wybodaeth yn ofalus, yn arbennig felly y canllawiau diogelwch o ran Cofid-19 ac i beidio mynychu'r rali os ydych yn teimlo'n sâl o gwbl. Bydd cyfle ar ôl y rali i'r rheiny nad oedd wedi gallu mynychu i arwyddo'r alwad genedlaethol ar-lein.

AtodiadMaint
Camau Diogelwch Cofid - PWYSIG.pdf86.84 KB
Trefniadau parcio a chludo.pdf7.23 MB
Cyfleusterau a gwybodaeth bellach.pdf167.11 KB
Amserlen y diwrnod.pdf81.2 KB