19/01/2023 - 20:00
Bydd Rhanbarth Ceredigion yn cyfarfod dros Zoom am 8.00, nos Iau, 19 Ionawr.
Croeso i unrhyw aelod yn y rhanbarth i ymuno – dewch i glywed beth sy'n digwydd yn yr ardal ac i drafod sut gall y Gymdeithas weithredu yn arbennig felly yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad (a chofiwch am y cyfarfod i drafod hyn yn Neuadd Llwyncelyn, bore Sadwrn, 21 Ionawr.
Rhowch wybod hefyd os oes unrhyw faterion penodol yr hoffech eu trafod.
Os hoffech ymuno yn y sgwrs ebostiwch post@cymdeithas.cymru er mwyn i ni anfon dolen atoch.