26/06/2024 - 19:00
Bydd cyfarfod nesaf Rhanbarth Gwynedd-Môn yn un hybrid – dewch i ystafell gyfarfod Palas Print yng Nghaernarfon os am gyfarfod wyneb-yn-wyneb ond mae croeso mawr i chi ymuno arlein hefyd.
Byddwn ni'n cynllunio digwyddiad ger swyddfa Cyngor Gwynedd ar gyfer trafodaeth y Cabinet ar gyflwyno gorchymyn Erthygl 4 i reoli tai haf a thai gwyliau; byddwn yn trafod gwasanaethau hamdden ym Môn hefyd.
Am ragor o wybodaeth neu ddolen i ymuno cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru.