10.30, dydd Sadwrn, 10 Medi 2022
Lleoliad i'w gadarnhau
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion yma.
Cofiwch fod gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio).
Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Weinyddol fydd cyfarfod mis Medi ac yn gyfle i ganolbwyntio ar faterion gweinyddol a materion aelodaeth, codi arian, ac ati.
Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno. Cysylltwch am fanylion pellach ac i roi gwybod eich bod yn dod (neu ffoniwch 01970-624501).
Noder:
-
Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.
-
Gall swyddogion y Gymdeithas gynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad. Cysylltwch i weld a oes rhywun yn dod o'ch ardal chi.
-
Os yw costau trafnidiaeth neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Rydym ddim ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu trafnidiaeth gyda swyddogion eraill.
-
Cysylltwch cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.
-
Byddwn yn trefnu cinio syml yn ystod cyfarfodydd sy'n para trwy'r dydd – croesewir cyfraniadau yn ôl gallu'r unigolyn i dalu.