10:00, dydd Sul, 2 Ebrill 2023
Cynhelir cyfarfod Ebrill o'r Senedd fel rhan o'r penwythnos preswyl yn y Byncws, Fferm Morfa, Llanrhystud.
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn (darllenwch fwy yma), ond mae gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio).
Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Ranbarthau fydd cyfarfod mis Ebrill yn canolbwyntio ar waith y Gymdeithas yn y rhanbarthau.
Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno. Cysylltwch os am fynychu.