Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas (Rhanbarthau)

06/04/2024 - 13:15

1.15, pnawn Sadwrn, 6 Ebrill 2024

Clwb y Bont, Pontypridd

Cynhelir cyfarfod Ebrill o'r Senedd fel rhan o ddiwrnod o weithgarwch ym Mhontypridd, cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn (darllenwch fwy yma), ond mae gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio). 

Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Ranbarthau fydd cyfarfod mis Ebrill yn canolbwyntio ar waith y Gymdeithas yn y rhanbarthau.

Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno. Cysylltwch os am fynychu neu os am wybodaeth bellach.

Noder hefyd:

  • Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.

  • Gall swyddogion y Gymdeithas gynnig lifft o nifer o leoedd yn y wlad.

  • Os yw costau teithio, bwyd neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl.

  • Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall. Byddwn ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi gael lifft.  

  • Darllenwch y Polisi Treuliau ar gyfer Gwirfoddolwyr am fwy o fanylion.